Isaiah 9

1Ond fydd y tywyllwch ddim yn para
i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng!
Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon
a thir Nafftali eu cywilyddio;
ond yn y dyfodol bydd Duw
yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd,
ar Ffordd y Môr,
a'r ardal yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.

Y rhyfel drosodd

2Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch
wedi gweld golau llachar.
Mae golau wedi gwawrio
ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.
3Ti wedi lluosogi'r genedl,
a'i gwneud yn hapus iawn;
Maen nhw'n dathlu o dy flaen di
fel ffermwyr adeg y cynhaeaf,
neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.
4Achos rwyt ti wedi torri'r iau
oedd yn faich arnyn nhw,
a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw
– sef gwialen y meistr gwaith –
fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.
9:4 Pan wnaeth Gideon drechu byddin Midian yn Nyffryn Jesreel (gw. Barnwyr 6-8).

5Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,
a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,
yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.
6Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni;
mab wedi cael ei roi i ni.
Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.
A bydd yn cael ei alw yn
Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,
Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
7Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,
a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw
i orsedd Dafydd a'i deyrnas.
Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau
a teyrnasu'n gyfiawn ac yn deg
o hyn allan, ac am byth.
Mae'r Arglwydd holl-bwerus yn benderfynol
o wneud hyn i gyd.

Duw yn cosbi Israel

8Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. 9Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim
9:9 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Er yn dal yn falch ac ystyfnig, yn honni:

10“Mae'r blociau pridd wedi syrthio,
ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!
Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr,
ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”

11Gadawodd yr Arglwydd i elynion Resin ei gorchfygu hi.

Roedd e wedi arfogi ei gelynion –
12daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin –
Roedd eu cegau'n llydan agored,
a dyma nhw'n llyncu tir Israel.
Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
13Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl
at yr un wnaeth eu taro nhw;
Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r Arglwydd holl-bwerus.
14Felly bydd yr Arglwydd yn torri
pen a chynffon Israel;
y gangen balmwydd a'r frwynen
ar yr un diwrnod.
15Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;
y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.
16Mae'r arweinwyr wedi camarwain,
a'r rhai sy'n eu dilyn wedi llyncu'r cwbl.
17Dyna pam nad ydy'r Arglwydd yn hapus gyda'r bobl ifanc;
Dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon.
Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg;
maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl.
Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
18Mae drygioni yn llosgi fel tân,
ac yn dinistrio'r drain a'r mieri;
mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed
nes bod y mwg yn codi yn golofnau.
19Pan mae'r Arglwydd holl-bwerus wedi digio,
mae'r wlad yn llosgi.
Mae'r bobl fel tanwydd,
a does neb yn poeni am neb arall.
20Maen nhw'n torri cig fan yma,
ond yn dal i newynu;
maen nhw'n bwyta fan acw
ond ddim yn cael digon.
Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd –
21Manasse'n ymosod ar Effraim
ac Effraim ar Manasse,
a'r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!
Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,
Roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Copyright information for CYM